Cofnodion y Grŵp Trawsbleidiol ar Ddiabetes

Dydd Mawrth 4 Mehefin 2014

Yn bresennol

Jenny Rathbone AC (Cadeirydd)

Armon Daniels (Meddyg Teulu Caerdydd)

Kamila Hawthorne (Meddyg Teulu Caerdydd)

Lynne Hughes (Coleg Brenhinol y Nyrsys Cymru)

Sarah Davies (Meddyg Teulu Caerdydd)

Vaughan Gething AC

Julie Morgan AC

Helen Nicholls (Cymdeithas Ddeieteg Prydain)

Scott Cawley (Podiatreg Cymru Gyfan)

Robert Wright (Aelod lleyg)

Paul Coker (Input Patient Advocacy)

David Chapman (Yn cynrychioli Medtronic)

Ros Meek (Medtronic)

Robert Koya Rawlinson (Novo Nordisk)

Chris Williams (Novo Nordisk)

Wendy Gane (Cymorth gan eraill sydd â Diabetes)

Sara Moran (Diabetes UK Cymru)

Jason Harding (Diabetes UK Cymru)

Helen Cunningham (Swyddfa Jenny Rathbone AC)

Mirriam Dupree (Swyddfa Jenny Rathbone AC)

           

Ymddiheuriadau

David Melding AC

Bethan Jenkins AC

Dai Williams (Diabetes UK Cymru)

Penny Griffiths (Abbott Diabetes Care)

Dr Lindsay George

Lesley Jordan (Input Patient Advocacy)

Yvonne Johns (Grwpiau Cyfeirio Diabetes Gogledd Cymru)

Rhian Shaw (Sanofi)

Steve Bain (Prifysgol Abertawe)

 

Hoffai'r grŵp trawsbleidiol ddiolch i'r sefydliadau canlynol am eu cymorth:

 

 

 

 

 

 

 

Cyflwyniadau

 

Croesawodd Jenny Rathbone AC y rhai a oedd yn bresennol, i nawfed cyfarfod y grŵp yn y pedwerydd Cynulliad. Diolchodd Jenny i'r aelodau am ei hail-ethol fel cadeirydd y grŵp trawsbleidiol. Cyflwynodd yr aelodau eu hunain a'u sefydliadau.

 

1.   Cofnodion y cyfarfod diwethaf a materion yn codi

 

Cytunodd y grŵp ar gywirdeb cofnodion y cyfarfod blaenorol.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi anfon llythyr at Fwrdd Iechyd Lleol Powys i ofyn sut y gall cleifion ymgysylltu â'r bwrdd iechyd.   Nid yw wedi cael ymateb gan y cyfarwyddwr eto.

 

Dywedodd Robert Wright mai ar 4 Mawrth oedd y cyfarfod diwethaf.  Ers y cyfarfod hwnnw, cafodd dau gyfarfod o'r Grŵp Cynllunio a Chyflawni ar gyfer Diabetes, ar 18 Mawrth a 9 Mehefin, eu canslo.   Mae pedwar cyfarfod wedi'u canslo ers mis Mehefin 2013.  Nododd Robert ei siom am fod y Grwpiau yn cael eu hystyried i fod yn ganolog o ran gofal Diabetes yn y cynllun darparu a'r ymchwiliad, ond ymddengys nad yw Bwrdd Iechyd Lleol Powys yn cydnabod hynny.  Dywedodd Robert ei fod wedi codi ei bryderon gyda'r Bwrdd drwy ei Aelod Cynulliad, Russell George, a'i fod wedi cael ymateb gan y Bwrdd yn datgan y gall gyfrannu drwy'r Cyngor Iechyd Cymuned.  Mae Robert yn mynd i'r Cyngor ond mae o'r farn nad dyna'r fforwm cywir.  Mae'r Cyngor ei hun wedi dweud wrtho nad y Cyngor yw'r fforwm cywir ar gyfer ei gwestiynau technegol ynghylch diabetes.

 

Dywedodd Vaughan Gething i bryderon am y Grwpiau godi adeg ymchwiliad y Pwyllgor Iechyd, yn enwedig ym Mhowys.  Awgrymodd Vaughan, yn ogystal â gofyn am ymateb i'r llythyr, y dylid dweud wrth Gadeirydd presennol y pwyllgor iechyd mai pwynt gweithredu ydyw sy'n deillio o'r adroddiad.

 

Cadarnhaodd Jason Harding y materion a godwyd gan Robert Wright. Gofynnodd Diabetes UK am eglurhad o'r hyn sy'n digwydd yn y Bwrdd Iechyd, ond nid yw wedi cael ymateb hyd yma.  Awgrymodd Jason y dylai'r grŵp trawsbleidiol godi'r pryderon am Bowys gydag Adam Cairns, Cadeirydd y Grŵp Gweithredu Diabetes Cymru Gyfan.  Mae Adam wedi datgan ei fod yn ymrwymo i ymweld â phob Bwrdd Iechyd Lleol. Roedd Jason o'r farn y byddai Adam yn falch o gael clywed am y mater.

 

Dywedodd Wendy Gane ei bod wedi bod yn Gadeirydd Cyngor Iechyd Cymuned yn y Cymoedd am naw mlynedd a bod gan y Cyngor rôl yn monitro gwasanaethau diabetes (a gwasanaethau eraill), felly ni ddylai Robert fod wedi cael neges nad y Cyngor Iechyd Cymuned yw'r lle cywir i godi pryderon.  Awgrymodd Wendy y dylid cysylltu â phob CIC ledled Cymru i weld beth y maent yn ei wneud i fonitro'r cynllun cyflenwi newydd a'i weithrediad.  Ychwanegodd Wendy ei bod yn rhan o'r grŵp gweithredu a'i bod yn mynd i sôn am gyfranogiad cleifion pan fydd y grŵp yn cyfarfod yr wythnos nesaf.

 

Awgrymodd y Cadeirydd y dylid cynyddu pwysigrwydd yr ohebiaeth at y Bwrdd drwy ysgrifennu at y Prif Weithredwr gyda chopi at Adam Cairns.  Ychwanegodd y Cadeirydd, os na chaiff y mater ei ddatrys gan ymateb gan y Bwrdd Iechyd mewn modd amserol, yna bydd yn codi'r mater gyda'r Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol.

Cam i’w gymryd: Cadeirydd i ysgrifennu eto at Brif Weithredwr Bwrdd Iechyd Lleol Powys am y Grŵp Cynllunio a Chyflawni ar gyfer Diabetes a'r diffyg ymateb

 

Cadarnhaodd y Cadeirydd fod llythyr wedi'i ysgrifennu at y Gweinidog am nifer y Nyrsys Arbenigol Diabetes (DSN).  Roedd ei ymateb (sydd wedi'i gynnwys gyda'r cofnodion) yn datgan bod y Prif Swyddog Nyrsio yn gwneud archwiliad o'r hyn y byddai Nyrsys Arbenigol Diabetes ar draws Cymru yn ei wneud, a byddai'n sicrhau bod y Grŵp Trawsbleidiol yn cael copi o'r adroddiad terfynol yn yr haf, er mwyn i'r Grŵp ei drafod yng nghyfarfod yr hydref.  Mae'r llythyr yn nodi na ddaeth yr ymgynghoriad diabetes ar gyfer 'Law yn Llaw at Iechyd' o hyd i unrhyw dystiolaeth a oedd yn awgrymu bod diffyg hyfforddiant ar gyfer cefnogi cleifion sy'n defnyddio therapi pwmp inswlin neu fesuryddion glwcos gwaed Smart. Dywedodd Paul Coker fod cleifion yn cael gwybod y gallant gael pwmp, ond yna maent yn cael eu rhoi ar restr aros i gael hyfforddiant.

 

Cafwyd ymateb (sydd wedi'i gynnwys gyda'r cofnodion) gan David Rees, cadeirydd y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol. Mae'r llythyr yn nodi bod y technolegau wedi cael eu mesur mewn ffordd eang iawn, nad oedd yn edrych yn benodol ar therapi pwmp inswlin, ond bod hynny'n argymhelliad allweddol yn yr adroddiad ar y fframwaith gwasanaeth cenedlaethol ar gyfer diabetes.

 

Dywedodd y Cadeirydd ei bod wedi ysgrifennu at Adam Cairns i ofyn beth yw'r amserlen ar gyfer penodi'r arweinydd clinigol.  Cadarnhaodd Jason Harding i'r swydd gael ei hysbysebu rhyw dair neu bedair wythnos yn ôl, a bod y dyddiad cau'r wythnos diwethaf. Mae ceisiadau wedi dod i law a chynhelir y cyfweliadau ddiwedd mis Mehefin.

 

2.   Gwella Gofal Sylfaenol:  Y Meddygon Teulu Armon Daniels a Kamila Hawthorne ar eu profiadau yn Nhredelerch a Butetown

Cafwyd cyflwyniad gan Dr Kamila Hawthorne ar brosiect a fu'n rhedeg am bum mlynedd rhwng 2002 a 2007 o'r enw Heart Link.  Roedd y prosiect wedi'i leoli yn ne-orllewin Caerdydd, yn Riverside, Butetown a Grangetown. Roedd yn cwmpasu 13 practis meddyg teulu ac yn cael ei ariannu drwy'r gronfa anghydraddoldebau iechyd Llywodraeth Cymru. Daeth Kamila ynghlwm wrth y prosiect oherwydd ei diddordeb a'i gwaith ymchwil ynghylch addysg iechyd mwy priodol yn ddiwylliannol ar gyfer grwpiau lleiafrifol sydd â diabetes math 2.

 

Siaradodd Dr Armon Daniels am ei brofiadau yn ei bractis yn Nhredelerch. Dywedodd fod nifer yr achosion o ddiabetes wedi tyfu o 3% i bron i 6%, sy'n amcangyfrif rhy isel am fod maint y broblem yn tyfu bob blwyddyn.  Soniodd fod Canllawiau Clinigol y Fframwaith Canlyniadau Ansawdd gan NICE wedi'i helpu i feddwl am y claf o'i flaen a phob un arall o'i gleifion. Soniodd Armon am y clinigau rhithwir sy'n cael eu defnyddio yn y practis.

3.   Fforwm Arweinyddiaeth Diabetes Ewropeaidd: Adrodd yn ôl gan Jenny Rathbone

 

Dosbarthodd Jenny adroddiad ysgrifenedig am ei phresenoldeb yn y Fforwm Arweinyddiaeth Diabetes Ewropeaidd ym mis Mawrth. Roedd rhai o'r themâu yn cynnwys pwysigrwydd ail-lunio gwasanaethau i fodloni anghenion cleifion. Bydd newid y pwyslais o ofal eilaidd i ofal sylfaenol yn ymdrech hirdymor. Dywedodd Jenny y gallai Horizon 2020 fod yn gyfle i ymchwilio a rhannu arfer gorau ynghylch Diabetes, fel problem ledled Ewrop.

4.   Y wybodaeth ddiweddaraf gan yr is-grwpiau

Cafodd y grŵp ddogfennau cylch gorchwyl a ddrafftiwyd gan Diabetes UK. Atgoffodd David Chapman y grŵp fod llawer o ymdrech wedi mynd mewn i'r Fframwaith Gweithredu Diabetes y llynedd, a bod hwn yn gyfle i drawsnewid pethau o ran pympiau. Byddai'n hoffi bod yn rhan o'r grŵp pympiau ac mae'n ei weld fel ymgyrch gadarnhaol, ragweithiol sy'n cynnwys astudiaethau achos ynghylch sut gall pympiau drawsnewid bywydau pobl.

 

Ail-bwysleisiodd y Cadeirydd mai rôl y grwpiau yw canfod problemau a rhannu arfer da. Dylid gwneud y gwaith o fewn 12 mis. Gofynnodd sut y gellir dylanwadu ar fyrddau iechyd i wneud peth o'r gwaith hwn, achos all yr is-grwpiau ddim gwneud y cyfan.

 

Awgrymodd Scott Cawley bod angen ymgynghorydd ar yr is grŵp cleifion mewnol. Ychwanegodd Chris Williams y byddai nyrs arbenigol yn ychwanegiad da hefyd.

 

Cadarnhaodd Wendy Gane yr hoffai fod yn rhan o'r ddau is-grŵp. Dywedodd fod y diffyg dewis i gleifion rhwng pympiau a'r materion gyda synwyryddion yn broblem. Rhoddodd y wybodaeth ddiweddaraf am yr is-grŵp Retinopathi a dweud fod ganddo waith ar ôl i'w wneud.



5.   Unrhyw fater arall a dyddiad y cyfarfod nesaf

 

Atgoffodd y Cadeirydd y grŵp fod y digwyddiad blynyddol i randdeiliaid diabetes yn cael ei gynnal ar 11 Mehefin a'i fod yn agored i bawb.

 

Dyddiad y cyfarfod nesaf yw Dydd Mawrth 14 Hydref.